16/02/2007

Cymdeithasu yn Gymraeg... Socialising in Welsh

P'nawn da... ydych chi wedi clywed am e-chlysur?

Menter Caerdydd sydd wedi creu'r wefan (http://echlysur.com/) ac mae'n ffynhonell ddefnyddiol iawn sy'n eich hysbysu am nifer o ddigwyddiadau, gweithgareddau, gwasanaethau ayb sydd ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg yn yr ardal.

Gallwch gofrestru â'r wefan er mwyn derbyn ebyst am unrhyw ddigwyddiadau ayb sydd ar y gweill - dyma'r llefydd delfrydol i glywed ac ymarfer y Gymraeg mewn awyrgylch anffurfiol.

Oes gennych chi syniadau?
Efallai eich bod chi wedi dod o hyd i fannau da i ymarfer y Gymraeg y tu allan i'r gwersi yn barod. Os felly, lle fyddech chi'n cynghori dysgwyr eraill i fynd er mwyn cael clywed ac ymarfer yr iaith?

Postiwch unrhyw syniadau ar y blog - edrych ymlaen i glywed gennych chi!
__________________________________________________________
Good afternoon... have you heard about e-chlysur?

It's a very popular website (http://echlysur.com/) designed by Menter Caerdydd to inform you about the various events, activities, services etc that take place through the medium of Welsh in the area.

You can register with the website to receive emails about events etc coming up - these are ideal places to hear and practice your Welsh in informal surroundings.

Have you got ideas?
You might already know of good places to practice your Welsh outside the lessons. If so, where would you recommend to other learners as places to hear and practice the language?

Post any ideas on to the blog - looking forward to hearing from you!

18/01/2007

Dweud eich dweud! - Get your voice heard!

DWEUD EICH DWEUD!

Bore da gyd-flogwyr llawen a gobeithio bod 2007 wedi cychwyn yn addawol i chi i gyd! Llion dwi ac o’n i’n meddwl y bydden i’n manteisio ar y cyfle i gyflwyno fy hun fel swyddog marchnata newydd Canolfan Cymraeg i Oedolion Caerdydd a’r Bro Morgannwg! Mi hoffwn i annog pawb i ddefnyddio’r blog yma fel safle i ddarganfod beth sy’n digwydd o fewn y Ganolfan ac fel cyfrwng i gael dweud eich dweud yn onest am bethau.

Fy nod personol i yn y tymor byr fydd holi a gwrando ar gymaint â phosib o staff a myfyrwyr y Ganolfan cyn creu cynllun marchnata ar gyfer Caerdydd a’r Fro. Felly os oes gennych chi unrhyw beth i ’w ddweud, dyma’ch cyfle chi. Rhowch wybod sut mae eich cyrsiau Cymraeg yn mynd hyd yn hyn a beth yw eich barn amdanynt. Hefyd, beth yw eich nod(au) personol chi am y mis neu ddau nesaf?

I bostio eich sylwadau, cliciwch ar y botwm 'comments' ar waelod yr ebost.
Edrych ymlaen i glywed gennych chi!

Llion a gweddill tîm y Ganolfan.

GET YOUR VOICE HEARD!

Good morning bloggers and I hope that 2007 has started well for all of you! My name is Llion and I thought I’d take advantage of this opportunity to introduce myself as the new marketing officer for Cardiff and the Vale of Glamorgan Welsh for Adults Centre! I’d like to encourage everyone to use this blog as a site to find out what goes on within the Centre and as a medium to discuss anything you like.

My personal aim in the short term is to question and listen to as many of the Centre’s staff and students as possible before creating a marketing plan for Cardiff and the Vale. So if you have anything to say, this is your chance. Let us know how your Welsh courses are going so far and your opinions on them. Also, what are your personal aims for the next month or two?

To post your comments, click on the 'comments' button on the bottom of this email.
Looking forward to hear from you!

Llion and the rest of the team at the Centre.

30/11/2006

Cwrs Haf - Summer Course


Sadwrn Siarad 27/01/07


Pryd :
Dydd Sadwrn 27ain Ionawr 2007

Ble :
Amgueddfa Cymru, National Museum Wales.
Parc Cathays, CF10 3NP

Cysylltwch â'r Ganolfan - 02920874710 / canolfan@caerdydd.ac.uk

dewch â phecyn cinio gyda chi.

Cyflwyniad / Introduction - Shan Morgan Baker


Shan dw i a dw i'n diwtor yn y Ganolfan.
Bob mis dw i'n mynd i'r Mochyn Du i gwrdd a chael clonc gyda dysgwyr a hefyd dw i'n trefnu mynd a dysgwyr i weld unrhyw ddramau Cymraeg sy'n cael eu perffomrio yng Nghaerdydd. Os hoffech chi ddod, cysylltwch â'r Ganolfan.
Mae nifer o ddigwyddiadau cyffrous eraill ar y gweill yn 2007, felly cadwch mewn cysylltiad.
hwyl am y tro,
Shan

MorganBaker@caerdydd.ac.uk