Showing posts with label Learn Welsh. Show all posts
Showing posts with label Learn Welsh. Show all posts

09/08/2007

Cyrsiau 2007/08 - Courses for 2007/2008



Mae prosbectws 2007/2008 ar gael nawr. The 2007/2008 prospectus is now available.

Rhestr CyrsiauFull Couse List

30/05/2007

Dysgwyr Cymraeg yn codi i’r entrychion yn y Barri! - Welsh Learners flying high in the Barry!

Llongyfarchiadau mawr i Roy Hulin ar ennill gwobr a hanner yn ystod digwyddiad ‘Cyflwyniad i’r Gymraeg – Diwrnod o Hwyl’ yn Llyfrgell y Barri dydd Gwener! Roedd Roy ymhlith degau o bobl a ymwelodd â’r Llyfrgell i ddarganfod mwy a chofrestru ar gyrsiau Cymraeg yn yr ardal.

Yn ychwanegol i’r gwersi blasu ysgafn a ddarparwyd trwy gydol y dydd gan y Ganolfan Cymraeg i Oedolion, trefnwyd Helfa Drysor yn arbennig ar gyfer y dysgwyr. Yr ymgeisydd lwcus oedd Roy Hulin, ac o ganlyniad bydd yntau ac un person arall o’i ddewis ef yn hedfan o Faes Awyr Caerdydd i Ogledd Cymru gyda Highland Airways ac yn aros am 3 noson yn Nant Gwrtheyrn gan derbyn gwers Gymraeg yn y fargen!

Hoffai Canolfan Cymraeg i Oedolion, Caerdydd a Bro Morgannwg ddiolch yn fawr i Highland Airways ac i Ganolfan Iaith Nant Gwrtheyrn am eu cyfraniadau hael tuag at y wobr werth chweil hon.

Welsh Learners flying high in the Barry!
Congratulations to Roy Hulin on winning a spectacular prize during the ‘Introduction to Welsh Fun Day’ at Barry County Library on Friday! Roy was amongst the dozens of people who visited the Library during the day wanting to find out more and register on Welsh courses in the area.

Additional to the light taster sessions provided all day by the Welsh for Adults Centre, a Treasure Hunt was organised especially for the learners. The lucky contender was Roy Hulin, and as a result he (and another person of his choice) will be flying from Cardiff Airport to North Wales with Highland Airways and staying for 3 nights at Nant Gwrtheyrn where they will receive a Welsh lesson in the bargain!

Cardiff and the Vale of Glamorgan Welsh for Adults Centre would like to thank both Highland Airways and Nant Gwrtheyrn Welsh Language Centre for their generous donations towards this great prize.

24/04/2007

Dysgwyr Cymraeg - Welsh Learners

Pam ydych chi eisiau dysgu Cymraeg?

Whats your motivation to learn Welsh?
Dyma atebion rhai o'r dysgwyr:

Here are the reasons from some of our Learners :

04/04/2007

Oes gennych chi bennawd? Suggest a caption!

Dyma Shân Williams, un o diwtoriaid parchus a chydwybodol y Ganolfan ar ei diwrnod allan. Os oes gennych chi awgrym am bennawd i'r llun yma, mae croeso i chi ei bostio ar y blog..(!)

This is Shân Williams, one of the Centre's respected, conscientious tutors on her day out. Feel free to post a caption to go along with this picture on the blog..(!)