30/05/2007

Dysgwyr Cymraeg yn codi i’r entrychion yn y Barri! - Welsh Learners flying high in the Barry!

Llongyfarchiadau mawr i Roy Hulin ar ennill gwobr a hanner yn ystod digwyddiad ‘Cyflwyniad i’r Gymraeg – Diwrnod o Hwyl’ yn Llyfrgell y Barri dydd Gwener! Roedd Roy ymhlith degau o bobl a ymwelodd รข’r Llyfrgell i ddarganfod mwy a chofrestru ar gyrsiau Cymraeg yn yr ardal.

Yn ychwanegol i’r gwersi blasu ysgafn a ddarparwyd trwy gydol y dydd gan y Ganolfan Cymraeg i Oedolion, trefnwyd Helfa Drysor yn arbennig ar gyfer y dysgwyr. Yr ymgeisydd lwcus oedd Roy Hulin, ac o ganlyniad bydd yntau ac un person arall o’i ddewis ef yn hedfan o Faes Awyr Caerdydd i Ogledd Cymru gyda Highland Airways ac yn aros am 3 noson yn Nant Gwrtheyrn gan derbyn gwers Gymraeg yn y fargen!

Hoffai Canolfan Cymraeg i Oedolion, Caerdydd a Bro Morgannwg ddiolch yn fawr i Highland Airways ac i Ganolfan Iaith Nant Gwrtheyrn am eu cyfraniadau hael tuag at y wobr werth chweil hon.

Welsh Learners flying high in the Barry!
Congratulations to Roy Hulin on winning a spectacular prize during the ‘Introduction to Welsh Fun Day’ at Barry County Library on Friday! Roy was amongst the dozens of people who visited the Library during the day wanting to find out more and register on Welsh courses in the area.

Additional to the light taster sessions provided all day by the Welsh for Adults Centre, a Treasure Hunt was organised especially for the learners. The lucky contender was Roy Hulin, and as a result he (and another person of his choice) will be flying from Cardiff Airport to North Wales with Highland Airways and staying for 3 nights at Nant Gwrtheyrn where they will receive a Welsh lesson in the bargain!

Cardiff and the Vale of Glamorgan Welsh for Adults Centre would like to thank both Highland Airways and Nant Gwrtheyrn Welsh Language Centre for their generous donations towards this great prize.

29/05/2007

Sadwrn Siarad




Dewch yn llu i'r Sadwrn Siarad yn y Ganolfan gan gynnwys trip ir BBC. Bydd dosbarth, taith o amgylch rhan o set Pobl y Cwm, ymweld a stiwdio newyddion a chwrdd a rhai wynebau cyfarwydd.

DYDD SADWRN 9.30 - 4 MEHEFIN 23

Come and enjoy a Sadwrn Siarad in the Centre including a trip to the BBC. There will be a class, a tour of the Pobl y Cwm set, a visit to a news studio and an opportunity to meet some familiar faces.