09/08/2007

Cyrsiau 2007/08 - Courses for 2007/2008



Mae prosbectws 2007/2008 ar gael nawr. The 2007/2008 prospectus is now available.

Rhestr CyrsiauFull Couse List

31/07/2007

Llythyr gan Roy Hulin - Letter from Roy Hulin

Annwyl staff y Ganolfan,

Ysgrifennaf atoch i ddweud diolch yn fawr am drefnu penwythnos yn Nant Gwrtheyrn. Daeth Stan Jenkins (cyd fyfyriwr yn fy nosbarth - dosbarth Carol Grant ‘Siawns am Sgwrs’ yn y Barri) gyda fi a dyma grynodeb o bethau wnaethon ni:

Dydd Gwener 13-07-07.
Hedfanom ni o Faes Awyr Rhws i Ynys Mon (Valley) ble cyrhaeddon ni am ugain munud wedi pedwar yn y prynhawn. Llogon ni gar o gwmni yng Ngaerwen a gyrrais i i Nant Gwrtheyrn. Wrth i ni gyrraedd Pentre Llithfaen disgynnodd niwl ar y mynyddoedd yn debyg i noson oer y gaeaf ym mis Tachwedd. Cwrddon ni a Jim (O’Rourke) yn Nant Gwrtheyrn ac ar ôl sgwrs gyda fe sefydlon ni ym mwthyn ‘Nant y Ffynnon’. Wedyn, buon ni yn Nefyn ble cawson ni ddiodydd a phryd o fwyd yn ‘Y Folt’ (hen fanc oedd o!) cyn dychwelyd i Nant Gwrtheyrn.

Sadwrn 14-07-07.
Cawson ni frecwast cynnar ac aethon ni am dro o gwmpas Penrhyn Llyn. Stopion ni yn Abersoch am goffi ac ym Mhorthmadog am ginio. Wedyn, buon ni yn sioe fach amaethyddol yn Nhrefor. Yn y nos buon ni yng Nghaernarfon ble gwelais i fand Royal Marines yn ymdeithio wrth y castell o flaen tyrfa fawr. Ar ôl hynny buon ni yn y ‘Black Boy’ (Circa 1522) ble cawson ni bryd o fwyd a chyfle i siarad Cymraeg gyda thrigolion lleol -o’n nhw mor gyfeillgar - gwych! Ar y ffordd nol galwon ni yn ‘Y Fic’ yn Llithfaen - hollol Gymraeg yno!

Dydd Sul 15-07-07.
Brecwast cynnar eto a gyrrais i dros Foel Tryfan i Fangor a Beaumaris. Golygfeydd gwych dros a Menai gyda chychod ar eu angorfeydd. Nôl i Lyn ac i Rosgadfan ble ymwelon ni a hen fwthyn Kate Roberts. Yno, cwrddon ni a’r ceidwad, menyw gyfeillgar iawn. Arweiniodd hi ni o gwmpas y bwthyn gyda hanes byr Kate Roberts a dangosodd hi sgidiau du disglair ei hen nain Kate Roberts a blwch te (tea caddy) a oedd yn anrheg oddi wrth Angharad Tomos (Si Hei Lwli)
Cawson ni ginio ym mharc Glynllifon cyn dychwelyd i Nant Gwrtheyrn. Hwyr yn y prynhawn cyrhaeddodd Dr Adrian Price a Shân Morgan a’u criw -dosbarth cwrs Haf Caerdydd. Cawson ni ginio yng nghaffi Meinir gyda nhw. Wedyn, cwrddon ni David Williams o Sir Benfro. O’n ni gyda fe dros ddwy awr tra tywysodd e ni o gwmpas Nant Gwrtheyrn gan gynnwys yr hen gapel ac esboniodd hanes a phopeth am y pentre. Mwynheuon ni gwmni David yn fawr iawn - ysgrifenna i ato fe i ddweud diolch.

Hedfanon ni’n ôl i Gaerdydd fore Llun ar ôl penwythnos arbennig o dda. Mwynheuon ni yn arw!

Unwaith eto, diolch yn fawr i chi.

Cofion gorau,

Roy.

30/05/2007

Dysgwyr Cymraeg yn codi i’r entrychion yn y Barri! - Welsh Learners flying high in the Barry!

Llongyfarchiadau mawr i Roy Hulin ar ennill gwobr a hanner yn ystod digwyddiad ‘Cyflwyniad i’r Gymraeg – Diwrnod o Hwyl’ yn Llyfrgell y Barri dydd Gwener! Roedd Roy ymhlith degau o bobl a ymwelodd â’r Llyfrgell i ddarganfod mwy a chofrestru ar gyrsiau Cymraeg yn yr ardal.

Yn ychwanegol i’r gwersi blasu ysgafn a ddarparwyd trwy gydol y dydd gan y Ganolfan Cymraeg i Oedolion, trefnwyd Helfa Drysor yn arbennig ar gyfer y dysgwyr. Yr ymgeisydd lwcus oedd Roy Hulin, ac o ganlyniad bydd yntau ac un person arall o’i ddewis ef yn hedfan o Faes Awyr Caerdydd i Ogledd Cymru gyda Highland Airways ac yn aros am 3 noson yn Nant Gwrtheyrn gan derbyn gwers Gymraeg yn y fargen!

Hoffai Canolfan Cymraeg i Oedolion, Caerdydd a Bro Morgannwg ddiolch yn fawr i Highland Airways ac i Ganolfan Iaith Nant Gwrtheyrn am eu cyfraniadau hael tuag at y wobr werth chweil hon.

Welsh Learners flying high in the Barry!
Congratulations to Roy Hulin on winning a spectacular prize during the ‘Introduction to Welsh Fun Day’ at Barry County Library on Friday! Roy was amongst the dozens of people who visited the Library during the day wanting to find out more and register on Welsh courses in the area.

Additional to the light taster sessions provided all day by the Welsh for Adults Centre, a Treasure Hunt was organised especially for the learners. The lucky contender was Roy Hulin, and as a result he (and another person of his choice) will be flying from Cardiff Airport to North Wales with Highland Airways and staying for 3 nights at Nant Gwrtheyrn where they will receive a Welsh lesson in the bargain!

Cardiff and the Vale of Glamorgan Welsh for Adults Centre would like to thank both Highland Airways and Nant Gwrtheyrn Welsh Language Centre for their generous donations towards this great prize.

29/05/2007

Sadwrn Siarad




Dewch yn llu i'r Sadwrn Siarad yn y Ganolfan gan gynnwys trip ir BBC. Bydd dosbarth, taith o amgylch rhan o set Pobl y Cwm, ymweld a stiwdio newyddion a chwrdd a rhai wynebau cyfarwydd.

DYDD SADWRN 9.30 - 4 MEHEFIN 23

Come and enjoy a Sadwrn Siarad in the Centre including a trip to the BBC. There will be a class, a tour of the Pobl y Cwm set, a visit to a news studio and an opportunity to meet some familiar faces.

24/04/2007

Dysgwyr Cymraeg - Welsh Learners

Pam ydych chi eisiau dysgu Cymraeg?

Whats your motivation to learn Welsh?
Dyma atebion rhai o'r dysgwyr:

Here are the reasons from some of our Learners :

11/04/2007

Marathon Llundain 2007 London Marathon

Shwmae, Geoff Wright yw fy enw i, dw i'n gweithio fel Tiwtor Cymunedol a Rhieni i'r Ganolfan, ac mae dosbarthiadau mewn sawl ardal yng Nghaerdydd gyda fi, a rhai yn y Gweithle, ac yma yn y Ganolfan.

Bydda i'n rhedeg yn ras Marathon Llundain ar 22 Ebrill, dros yr elusen Cymdeithas Clefyd Parkinson, ac os hoffech chi fy noddi mae ffurflen yn y Dderbynfa, yn y Ganolfan i'w llenwi. DIOLCH YN FAWR!

Hefyd, beth am ymuno gyda ni yn y CLWB RHEDEG/LONCIAN/CERDDED, gyda'r nod o gymryd rhan yn ras 10 Cilomedr Caerdydd ym mis Medi? Byddwn yn cwrdd ar bnawn dydd Sul, 29 Ebrill, am 5.00pm, ym maes parcio Meysydd Llandaff (gyferbyn i dafarn yr Halfway).
Croeso cynnes i aelodau staff, a dysgwyr o bob safon. Gwela i chi yno!

I'm Geoff Wright, Senior Community and Parents Tutor, with classes in several areas in Cardiff, in the Workplace, and in the Centre. I'll be running in the London Marathon on the 22nd of April, for the Parkinson's Disease Society, and if you'd like to sponsor me there's a form in the Reception office you can add your name to. THANKS VERY MUCH!

Also, what about joining our RUNNER'S/JOGGERS/WALKERS CLUB, with the aim of taking part in the Cardiff 10 Kilometre race in September? We'll be meeting on Sunday afternoons, at 5.00pm, starting on April 29, in the car park on Llanfaff Fields, opposite the Halfway pub.
A warm welcome to staff, and learners of every level. See you there!

Geoff Wright (yr un yng nghanol y llun!) (The one in the centre of the photo!)

04/04/2007

Oes gennych chi bennawd? Suggest a caption!

Dyma Shân Williams, un o diwtoriaid parchus a chydwybodol y Ganolfan ar ei diwrnod allan. Os oes gennych chi awgrym am bennawd i'r llun yma, mae croeso i chi ei bostio ar y blog..(!)

This is Shân Williams, one of the Centre's respected, conscientious tutors on her day out. Feel free to post a caption to go along with this picture on the blog..(!)