Annwyl staff y Ganolfan,
Ysgrifennaf atoch i ddweud diolch yn fawr am drefnu penwythnos yn Nant Gwrtheyrn. Daeth Stan Jenkins (cyd fyfyriwr yn fy nosbarth - dosbarth Carol Grant ‘Siawns am Sgwrs’ yn y Barri) gyda fi a dyma grynodeb o bethau wnaethon ni:
Dydd Gwener 13-07-07.
Hedfanom ni o Faes Awyr Rhws i Ynys Mon (Valley) ble cyrhaeddon ni am ugain munud wedi pedwar yn y prynhawn. Llogon ni gar o gwmni yng Ngaerwen a gyrrais i i Nant Gwrtheyrn. Wrth i ni gyrraedd Pentre Llithfaen disgynnodd niwl ar y mynyddoedd yn debyg i noson oer y gaeaf ym mis Tachwedd. Cwrddon ni a Jim (O’Rourke) yn Nant Gwrtheyrn ac ar ôl sgwrs gyda fe sefydlon ni ym mwthyn ‘Nant y Ffynnon’. Wedyn, buon ni yn Nefyn ble cawson ni ddiodydd a phryd o fwyd yn ‘Y Folt’ (hen fanc oedd o!) cyn dychwelyd i Nant Gwrtheyrn.
Sadwrn 14-07-07.
Cawson ni frecwast cynnar ac aethon ni am dro o gwmpas Penrhyn Llyn. Stopion ni yn Abersoch am goffi ac ym Mhorthmadog am ginio. Wedyn, buon ni yn sioe fach amaethyddol yn Nhrefor. Yn y nos buon ni yng Nghaernarfon ble gwelais i fand Royal Marines yn ymdeithio wrth y castell o flaen tyrfa fawr. Ar ôl hynny buon ni yn y ‘Black Boy’ (Circa 1522) ble cawson ni bryd o fwyd a chyfle i siarad Cymraeg gyda thrigolion lleol -o’n nhw mor gyfeillgar - gwych! Ar y ffordd nol galwon ni yn ‘Y Fic’ yn Llithfaen - hollol Gymraeg yno!
Dydd Sul 15-07-07.
Brecwast cynnar eto a gyrrais i dros Foel Tryfan i Fangor a Beaumaris. Golygfeydd gwych dros a Menai gyda chychod ar eu angorfeydd. Nôl i Lyn ac i Rosgadfan ble ymwelon ni a hen fwthyn Kate Roberts. Yno, cwrddon ni a’r ceidwad, menyw gyfeillgar iawn. Arweiniodd hi ni o gwmpas y bwthyn gyda hanes byr Kate Roberts a dangosodd hi sgidiau du disglair ei hen nain Kate Roberts a blwch te (tea caddy) a oedd yn anrheg oddi wrth Angharad Tomos (Si Hei Lwli)
Cawson ni ginio ym mharc Glynllifon cyn dychwelyd i Nant Gwrtheyrn. Hwyr yn y prynhawn cyrhaeddodd Dr Adrian Price a Shân Morgan a’u criw -dosbarth cwrs Haf Caerdydd. Cawson ni ginio yng nghaffi Meinir gyda nhw. Wedyn, cwrddon ni David Williams o Sir Benfro. O’n ni gyda fe dros ddwy awr tra tywysodd e ni o gwmpas Nant Gwrtheyrn gan gynnwys yr hen gapel ac esboniodd hanes a phopeth am y pentre. Mwynheuon ni gwmni David yn fawr iawn - ysgrifenna i ato fe i ddweud diolch.
Hedfanon ni’n ôl i Gaerdydd fore Llun ar ôl penwythnos arbennig o dda. Mwynheuon ni yn arw!
Unwaith eto, diolch yn fawr i chi.
Cofion gorau,
Roy.
31/07/2007
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
No comments:
Post a Comment