06/03/2007

2 ddrama Gymraeg yn y Chapter cyn diwedd y mis

Nos Lun 19 Mawrth 8 o'r gloch -
MAE GYNNON NI HAWL AR Y SER - drama am Hedd Wyn gan Iwan Llwyd.
Bu farw Hedd Wyn 90 mlynedd yn ol.

Dyma ddywed Llwyfan Gogledd Cymru am eu cynhyrchiad:
'Petai Hedd Wyn wedi goroesi a dychwelyd i Gymru a fyddai wedi bod cyn
bwysiced i ni fel cenedl ag ydyw heddiw? Drama am orthrwm ac effaith rhyfel
ar yr unigolyn, ar gelf ac ar gymdeithas'

TOCYNNAU £6
Angen archebu erbyn dydd GWENER 9 MAWRTH

Nos Wener 30 Mawrth 8 o'r gloch -
GWAUN CWM GARW - addasiad Sharon Morgan o ddrama Moises Kaufman, The Laramie
Project.
Dyma ddywed Theatr Bara Caws am eu cynhyrchiad:
'Mae gan bawb ei stori, wrth i gymued glos yng ngorllewin Cymru geisio dod i
delerau a llofruddiaeth dyn ifanc...'

TOCYNNAU £6
Angen archebu erbyn dydd LLUN 19 MAWRTH
Sieciau'n daladwy i Chapter Arts Centre
Archebu: morganbaker@cf.ac.uk

No comments: