01/03/2007

Dydd Gŵyl Ddewi Hapus!

Dydd Gŵyl Ddewi hapus i bawb!

Mi fydd rhai ohonom ni yn ymuno yn yr orymdaith sy'n cychwyn o dafarn y Mochyn Du am 2:00 pnawn ma - beth mae pawb arall yn ei wneud i ddathlu'r achlysur?

Efallai eich bod chi wedi cymryd y diwrnod i ffwrdd fel gwyliau o ran egwyddor? Mae hyn yn dod â ni nôl at yr hen bwnc llosg - Gwyliau Cenedlaethol Dydd Gŵyl Ddewi - pwy sydd o blaid a phwy sydd yn erbyn?

Os fydd digon wedi rhoi eu barn, mi wna i gyhoeddi'r ystadegau ar y blog wythnos nesaf a gyrru datganiad i'r wasg er mwyn tynnu mwy o sylw at y mater!
___________________________________________
A happy St David's Day to everyone!

Some of us will be joining the march that begins at the Mochyn Du at 2:00 this afternoon - what is everyone else doing to celebrate the occasion?

You might have taken the day off as holidays on principal? This brings us back to that much debated subject - St David's Day National Holiday - who is for and who is against?

If we get enough opinions, I will publish the statistics on the blog next week and send out a press release to revive the discussion nationally!

1 comment:

Anonymous said...

Gwyliau Cenedlaethol Dydd Gŵyl Ddewi - Syniad ardderchog!
Martin