16/02/2007

Cymdeithasu yn Gymraeg... Socialising in Welsh

P'nawn da... ydych chi wedi clywed am e-chlysur?

Menter Caerdydd sydd wedi creu'r wefan (http://echlysur.com/) ac mae'n ffynhonell ddefnyddiol iawn sy'n eich hysbysu am nifer o ddigwyddiadau, gweithgareddau, gwasanaethau ayb sydd ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg yn yr ardal.

Gallwch gofrestru รข'r wefan er mwyn derbyn ebyst am unrhyw ddigwyddiadau ayb sydd ar y gweill - dyma'r llefydd delfrydol i glywed ac ymarfer y Gymraeg mewn awyrgylch anffurfiol.

Oes gennych chi syniadau?
Efallai eich bod chi wedi dod o hyd i fannau da i ymarfer y Gymraeg y tu allan i'r gwersi yn barod. Os felly, lle fyddech chi'n cynghori dysgwyr eraill i fynd er mwyn cael clywed ac ymarfer yr iaith?

Postiwch unrhyw syniadau ar y blog - edrych ymlaen i glywed gennych chi!
__________________________________________________________
Good afternoon... have you heard about e-chlysur?

It's a very popular website (http://echlysur.com/) designed by Menter Caerdydd to inform you about the various events, activities, services etc that take place through the medium of Welsh in the area.

You can register with the website to receive emails about events etc coming up - these are ideal places to hear and practice your Welsh in informal surroundings.

Have you got ideas?
You might already know of good places to practice your Welsh outside the lessons. If so, where would you recommend to other learners as places to hear and practice the language?

Post any ideas on to the blog - looking forward to hearing from you!

3 comments:

Anonymous said...

Gaf i cynnig cwisys i helpu dysgwyr - Wlpan http://quizlet.com/tag.php?tag=wlpan a Pellach http://quizlet.com/tag.php?tag=pellach
hefyd?

May I offer quizzes to help learners - Wlpan http://quizlet.com/tag.php?tag=wlpan and Pellach http://quizlet.com/tag.php?tag=pellach
also?

'o-Dzin Tridral (tridralo@cf.ac.uk)

Anonymous said...

Ewch i Amgueddfa Genedlaethol Y Glannau Abertawe. Bydd ymweld ag Amgueddfa Genedlaethol Y Glannau yn brofiad gwahanol i unrhyw brofiad arall a gawsoch mewn unrhyw amgueddfa arall - erioed! Cewch gyfle i ymweld a'r Hafan yr Ymwelwyr a'r Hafan Dysgu a gweld y dechnoleg wych sydd ar gael. Mae popeth yn ddwyieithog felly cewch gyfle i ymarfer eich Cymraeg a dysgu ychydig am eich gwlad. Mwynhewch!!

Rhys Wynne said...

Efallai bod rhai o'ch dysgwyr yn byw tu allan i sir Caerdydd, felly beth byddai manylion digwyddiadau mentrau cyfagos yn help. mae sawl un o'r rhain gyda eu sustem e-chylur eu hunain hefyd.

The above link is for events organised for surrounding Mentrau Iaith (Welsh Language Initiatives)


hefyd beth am roi dolen at y gwahanol Fentrau ar y blog yma, ac hefyd un ar gyfer Dysgwyr De Ddwyrain?